
Medr yn penodi James Owen yn Brif Weithredwr
Mae Medr wedi penodi James Owen yn Brif Weithredwr parhaol cyntaf y sefydliad. Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd yr Athro Paul Boyle, Cadeirydd Prifysgolion Cymru:
6 Mehefin 2025
“Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad bod James Owen wedi’i benodi’n Brif Weithredwr Medr, y Comisiwn ar gyfer Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Yn ei rôl fel Prif Swyddog Gweithredu, mae James wedi bod yn allweddol yn sefydlu'r Comisiwn newydd, ac rydym wedi gwerthfawrogi ei ddull cydweithredol, ei arweinyddiaeth strategol, a'i ymrwymiad i ddatblygu sector addysg drydyddol cydgysylltiedig yng Nghymru.
“Hoffem hefyd estyn ein diolch diffuant i Simon Pirotte am ei arweinyddiaeth fel Prif Weithredwr Dros-dro. Mae Simon wedi chwarae rhan hanfodol wrth arwain Medr trwy ei gyfnod ffurfiannol, ac mae ei ymrwymiad i'r sector wedi cael ei werthfawrogi.
“Wrth i James ymgymryd â’i rôl newydd fel Prif Weithredwr, rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gydag ef a gweddill tîm Medr i gefnogi sector trydyddol ffyniannus sy’n cyflawni ar gyfer dysgwyr, sefydliadau a’r genedl.”